Page last updated: 07/05/2020 at 15:05 | Ar gael yn Saesneg (available in English)
Wrth reswm, mae’r cyfnod yma’n anodd ac yn achosi straen i lawer o bobl. Ac fe allai fod yn arbennig o anodd os ydych yn feichiog neu wedi cael babi’n ddiweddar.
Dyma pam ei fod yn bwysig i chi ofalu amdanoch chi’ch hun a defnyddio’r gwasanaethau cymorth os oes gennych chi unrhyw bryderon am eich iechyd chi neu iechyd eich babi.
Mae gwasanaethau’n dal i redeg ac yn dal i allu gweld teuluoedd.
Er mwyn eich helpu chi i wneud hyn, rydyn ni wedi creu’r canllawiau canlynol sydd wedi’u rhannu’n ddwy adran:
Awgrymiadau iechyd a llesiant meddyliol i fenywod sy’n feichiog neu sydd wedi geni babi’n ddiweddar
1) CEISIWCH GAEL TREFN, LLE BO’N BOSIBL
Gall trefn syml a hyblyg sy’n gallu rhoi rhywfaint o strwythur a sicrwydd helpu i gynnal neu wella hwyliau. Gallai hyn gynnwys ysgrifennu amserlen ddyddiol a’i rhoi yn rhywle lle gallwch gyfeirio ati’n hawdd. Wrth gwrs, os oes gennych blant neu fabi, gallwch lunio’ch amserlen o gwmpas unrhyw drefn sydd gennych ar eu cyfer nhw.
Er mwyn helpu i lenwi eich amserlen, yn gyntaf gallwch wneud rhestr o weithgareddau meddyliol, corfforol a chymdeithasol i chi ddewis o’u plith (gweler awgrymiadau a syniadau gwych isod). Yna, os yw’n bosibl, ychwanegwch amrywiaeth o’r gweithgareddau hyn at bob diwrnod. Gallai hyn fod yn fuddiol iawn i oedolion, i blant ac i fabis.
Fodd bynnag, os nad oes trefn bendant i’ch diwrnod, peidiwch â phoeni na theimlo’n euog. Os oes gennych fabi neu blant, gall glynu at drefn fod yn anodd. Ac weithiau, ychydig o hyblygrwydd yw’r peth gorau i bawb ac mae gan hynny ei fanteision ei hun.
Cofiwch, os bydd eich trefniadau ar gyfer gweithgaredd neu hyd yn oed eich diwrnod cyfan yn gorfod newid neu ddim yn dilyn y drefn, peidiwch â phoeni. Ceisiwch fod yn hyblyg a byddwch yn garedig â chi’ch hun.
2) MEDDWL A CHORFF IACH
Ar hyn o bryd, mae llawer ohonom yn poeni ac yn teimlo’n drist am yr hyn sy’n mynd ymlaen yn y byd. Er mwyn helpu i reoli a lleihau unrhyw hwyliau isel neu orbryder, efallai bydd y canlynol yn ddefnyddiol i chi:
1. Ceisiwch ddarganfod y meddyliau penodol sy’n gwneud i chi deimlo’n isel. Ceisiwch ganfod beth sy’n mynd trwy eich meddwl pan fyddwch yn teimlo’n bryderus neu’n drist.
2. Gwiriwch a yw’r meddyliau hyn yn gywir, yn dosturiol ac yn iach i chi.
3. Os nad ydyn nhw, ceisiwch eu disodli gan feddyliau mwy cywir, iach a thosturiol.
4. Ceisiwch atgoffa eich hun i wneud hyn pan fyddwch yn sylweddoli eich bod yn cael y meddyliau hyn.
Chi yw’r peth pwysicaf sydd ei angen ar eich babi. Mae’n ffaith wyddonol mai eich wyneb yw’r peth mwyaf diddorol yn y byd i’ch babi. Hefyd, bydd eich babi’n dysgu’n gyflymach yn ystod y blynyddoedd cyntaf nag yn ystod unrhyw amser arall yn ei fywyd. A hyd yn oed yn ystod eich beichiogrwydd, mae eich babi’n gallu synhwyro a dysgu o’r hyn sy’n digwydd yn y byd a sut rydych chi’n teimlo. Felly, mae treulio amser gyda’ch babi a’i gynnwys yn eich gweithgareddau bob dydd yn ddigon ar hyn o bryd. Nid oes angen i chi boeni os na allwch fynd allan llawer, os nad ydych yn teimlo fel mynd allan llawer, neu os na allwch gwrdd ag eraill. Hefyd, mae’n bwysig cofio cymryd seibiant a bod yn garedig â chi’ch hun. Bydd hynny’n fuddiol i’ch babi yn y pen draw. Os ydych yn byw gyda phartner, gall yr amser hwn fod yn gyfle arbennig iddyn nhw adeiladu perthynas gyda’ch babi, a fydd yn bwysig i’r ddau ohonynt am weddill eu hoes. Dyma rywbeth y gallwch ei wneud gyda’ch gilydd, ac fe all eich partner fwynhau amser un-i-un gyda’r babi hefyd. Awgrymiadau i dadau ynghylch sut i fondio gyda’ch babi Os oes gennych blant eraill, efallai byddai’n ddefnyddiol iddyn nhw gymryd rhan yn y gweithgareddau rydych chi’n eu gwneud hefyd, os yw’n bosibl gwneud hynny. Ar hyn o bryd, efallai eich bod yn cael llawer o wybodaeth am COVID-19 a materion cysylltiedig drwy straeon newyddion a’r cyfryngau cymdeithasol. O ganlyniad, efallai byddwch yn teimlo bod popeth yn eich llethu, ac mae’n bosib bod yr wybodaeth ychwanegol yma’n achosi i chi boeni fwy ac yn eich gwneud yn fwy pryderus. I helpu gyda’r broblem yma, ceisiwch ond cael yr wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi a’ch teulu i wybodaeth beth sy’n digwydd. Fe allai hyn gynnwys gosod amseroedd penodol i fynd ar-lein i chwilio am wybodaeth, neu ond gwylio rhaglenni newyddion penodol. Hefyd, chwiliwch am wybodaeth o ffynonellau y gallwch chi ddibynnu arnyn nhw. Er mwyn eich helpu chi i wneud hyn, rydyn ni wedi darparu’r dolenni canlynol: Mae adegau ym mywyd pob un ohonom ni lle rydyn ni angen cymorth a chefnogaeth gan bobl eraill. Os oes angen cymorth arnoch chi gyda’ch iechyd meddwl nawr, peidiwch â phoeni na bod ofn gofyn am y cymorth hwnnw a manteisio arno. Siaradwch â’ch partner, aelod o’ch teulu neu ffrind (neu fudiad cymorth, gweler isod) am sut rydych chi’n teimlo er mwyn cael cymorth ganddynt. Bydd bob amser cyfle yn y dyfodol i chi dalu’n ôl am y caredigrwydd hwnnw. Cofiwch fod gweithwyr iechyd proffesiynol a mudiadau cymorth gwirfoddol dal ar gael i chi (gweler isod). Maen nhw eisiau i chi gysylltu â nhw os oes angen eu cymorth arnoch chi. Efallai eich bod yn ynysu’n gorfforol, ond nid ydych ar eich pen eich hun. Mae problemau iechyd meddwl yn ystod beichiogrwydd neu ar ôl geni babi’n gyffredin. Mae gan rai menywod gyflwr iechyd meddwl blaenorol a gall beichiogrwydd neu gael babi ei waethygu. I eraill, efallai dyma eu profiad cyntaf o broblem iechyd meddwl. Beth bynnag yw eich sefyllfa chi, cofiwch fod gweithwyr iechyd proffesiynol fel meddygon teulu, bydwragedd, ymwelwyr iechyd a gwasanaethau iechyd meddwl ar gael i’ch helpu chi – er efallai eu bod yn gweithio mewn ffordd wahanol y dyddiau hyn (gweler isod). Felly, peidiwch ag oedi cyn eu ffonio os ydych yn poeni am symptomau. Cofiwch am ein hawgrymiadau iechyd a llesiant meddyliol a allai fod yn ddefnyddiol ac yn lle da i ddechrau os ydych yn sylwi eich bod yn teimlo’n bryderus neu’n isel. Mae llawer o fathau gwahanol o broblemau iechyd meddwl ac mae gan bob un symptomau amrywiol. Efallai na fyddwch chi neu rywun sy’n agos atoch yn sylweddoli bod yr hyn rydych yn ei brofi’n gallu bod yn arwydd o salwch. Er mwyn eich helpu chi i adnabod arwyddion bod angen cymorth arnoch chi neu rywun sy’n agos atoch chi, ystyriwch y cwestiynau canlynol[1]: Os ydych yn poeni am eich iechyd meddwl chi, neu am iechyd meddwl rhywun rydych yn ei nabod, mae’n bwysig gwneud un o’r canlynol: Y newyddion da yw, rydyn ni’n gwybod sut i drin cyflyrau iechyd meddwl yn ystod beichiogrwydd neu ar ôl genedigaeth. Mae’n bwysig siarad â rhywun mor gynnar ag sy’n bosibl os oes gennych chi, eich partner, neu ffrind unrhyw symptomau sy’n eich poeni, ac mae’n well cael eich trin yn gynnar. Mae hyn yr un mor berthnasol yn ystod COVID-19. Efallai eich bod chi neu bobl eraill sy’n gofalu amdanoch chi’n poeni ynghylch siarad am hyn, ond mae timau iechyd meddwl amenedigol arbenigol mewn rhannau o’r DU sydd wedi’u hyfforddi’n benodol i helpu mamau i oresgyn problemau iechyd meddwl amenedigol, gyda’u babis. Mae hyn eto yr un mor berthnasol yn ystod COVID-19. Cofiwch fod siarad am y mater yn arwydd o gryfder ac yn ffordd o ofalu amdanoch chi’ch hun a fydd yn eich helpu chi i ofalu am eich babi yn y pen draw. Please note that the MMHA is not responsible for the content of any of the links above but hopes that they may provide comfort and help at this time.
3) TREULIO AMSER GYDA’CH BABI
4) CANOLBWYNTIWCH AR WYBODAETH Y GALLWCH YMDDIRIED YNDDI HEB ORLWYTHO EICH HUN
5) MAE’N IAWN I OFYN AM GYMORTH A CHEFNOGAETH
Arweiniad os ydych yn poeni eich bod chi neu rywun agos atoch chi’n dioddef o broblem iechyd meddwl amenedigol
1) ADNABOD ARWYDDION RHYBUDD
1. Oes gennych chi neu a oes ganddyn nhw deimladau a meddyliau newydd nad ydych chi wedi’u cael o’r blaen, ac sy’n eich gwneud yn anesmwyth neu’n bryderus?
2. Ydych chi neu ydyn nhw’n meddwl am niweidio neu ladd eu hunain mewn ffordd dreisgar?
3. Ydych chi neu ydyn nhw’n meddwl eich bod yn fam wael, yn meddwl nad ydych yn gallu ymdopi, neu’n teimlo fel eich bod wedi datgysylltu oddi wrth y babi?
4. Ydych chi’n teimlo eich bod chi neu eu bod nhw’n gwaethygu?
Os byddwch chi neu rywun sy’n agos atoch chi’n ateb ‘Ydw/Oes’ i unrhyw un o’r cwestiynau uchod, cysylltwch ag un o’r gwasanaethau cymorth isod i gael y cymorth proffesiynol sydd ei angen arnoch.
2) GYDA PHWY Y DYLECH CHI GYSYLLTU I GAEL CYMORTH
3) GWYBODAETH BELLACH A CHYNGOR
4) COFIWCH FOD CYMORTH ARBENIGOL AR GAEL